
Rydym wrthi yn pacio ein baneri, prosbectysau, esgidiau glaw a’r
tegell (rhaid peidio ag anghofio tegell!), yn barod am wythnos yn y
‘Steddfod. Mae pawb yn edrych mlaen i’r wyl o farddoniaeth,
cherddoriaeth a chymdeithasu.
Dewch i ymweld â ni yn ar Stondin 905/906, neu i wylio un o’n
dosbarthiadau meistr, lle bydd y delynores Catrin Finch (yn y
pagoda am 2pm ar Ddydd Mercher) a’r gantores Leah-Marian Jones (yn
y Stwidio am 11am ar Ddydd Iau) yn rhannu eu profiad gyda’n
myfyrywyr y delyn a llais.
Wrth gwrs, fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru, bydd nifer o’n
myfyrwyr yn cystadlu a pherfformio yn yr Eisteddfod, gan gynnwys
nifer o’n cantorion a cherddorion pres. Cofiwch i ddilyn ni ar
Twitter a Facebook i glwyed y diweddaraf
o’r maes.