“Sudd, Chwant a Thân” gan Rachael y Pypedwr

Daeth y gwneuthurwr pypedau, a myfyriwr graddedig Cynllunio Theatr CBCDC, Rachael Canning â stori tylwyth teg llawn “sudd, chwant a thân” i Gaerdydd y penwythnos hwn gyda’i sioe deithiol The Girl with the Iron Claws.

Cyflwyniad dyfeisgar o stori tylwyth teg Lychlynnaidd dywyll yw’r sioe, sy’n cynnwys pypedwaith, cerddoriaeth a hiwmor. Y cwmni sy’n gyfrifol am y sioe yw The Wrong Crowd - a ffurfiwyd gan Rachael a’r awdur/cyfarwyddwr Hannah Mulder.

Ers graddio o CBCDC mae gwaith Rachael wedi cynnwys cynllunio a chyfarwyddo pypedau ar gyfer nifer o gynyrchiadau, yn cynnwys Magical Night i’r Royal Opera House, The City Madam i’r RSC ac Into the Woods yn Theatr Awyr Agored Regent’s Park.

Dywedodd Rachael “Ar gyfer ein sioe gyntaf rydym yn ail-adrodd chwedl rymus. Rydym yn frwd o blaid yr hen storïau yma a’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig i gynulleidfaoedd modern, yn hen ac ifanc. Cafodd llawer o gynnwys llai pleserus y storïau cyfoethog hyn eu tynnu allan gan bobl oes Victoria ac rydym am archwilio fersiynau cynharach a chwistrellu peth o’r sudd, chwant a thân yn ôl iddynt.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn pypedwaith, dewch draw i’r sioe bypedwaith flynyddol yr haf hwn a gweld gwaith cynllunwyr theatr y dyfodol.