MPhil/PhD Cerddoriaeth

Wrth astudio am ddoethuriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a
Drama Cymru, byddwch yn canolbwyntio’n benodol ar ymchwil yn
ymwneud â pherfformio cerddorol. Bydd eich arfer cerddorol eich hun
yn hanfodol i’ch ymchwil a bydd cyfle i gynnwys perfformio yn y
cynnyrch terfynol – er y bydd natur a maint hynny yn amrywio yn ôl
y maes ymchwil penodol. Bydd pobl sydd am ganolbwyntio ar
gyfansoddi fel sail i’w hastudiaethau yn datblygu portffolio o ryw
wyth cyfansoddiad sylweddol a chyferbyniol,wedi eu cefnogi gan
esboniad dadansoddol ac esthetig ysgrifenedig. Er mwyn trafod eich
syniadau ymhellach a derbyn cymorth a chyngor ar sgrifennu cynnig
ymchwil, dylech gysylltu â’r coleg yn uniongyrchol.
Gofynion Mynediad
Disgwylir i ymgeiswyr fod â chymwyster lefel meistr cryf mewn
cerddoriaeth. Efallai y caiff ymgeiswyr sydd â chymwysterau
mynediad amgen o’r proffesiwn eu hystyried hefyd.
Sut Mae Ymgeisio
I gael mynediad i’r gwrs yma, rhaid ymgeisio’n uniongyrchol i’r
coleg gan ddefnyddio ein ffurflen gais.
Taliadau
Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl rhaglen
ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn y PhD/MPhil yn ystod y flwyddyn
academaidd 2011/12 fydd £5,100 bob blwyddyn ar gyfer y llwybr tair
blynedd (£15,300 yn y cyfanswm), neu £2,800 bob blwyddyn ar gyfer y
llwybr chwe blynedd (£16,200 yn y cyfanswm).