MMus Technoleg Cerddoriaeth Creadigol (Dysgu o Hirbell)

Dwy Flynedd

Mae’r rhaglen ar gyfer cerddorion gweithgar sydd am hyrwyddo’u gyrfa yn y proffesiwn cerddoriaeth. Caiff ei darparu’n gyfan gwbl ar-lein trwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir, sy’n caniatáu i fyfyrwyr mewn unrhyw ran o’r byd astudio ar sail hyblyg, gan gychwyn ar unrhyw adeg yn y flwyddyn. Bydd y rhaglen ddwy-flynedd yn darparu’r sgiliau gofynnol a’r technegau ymarferol i chi allu creu portffolio cyffrous o gerddoriaeth newydd gan ddefnyddio’ch cyfrifiadur. Bydd amrywiaeth o fodiwlau astudiaeth cefnogol, i weddu i’ch gofynion a’ch diddordebau unigol, yn darparu ymdeimlad o gyd-destun ac ymwybyddiaeth esthetig o’ch cerddoriaeth eich hunan ac eiddo eraill. Bydd hyfforddiant un-i-un gyda thiwtor dynodedig yn canolbwyntio ar eich projectau creadigol trwy gyfnewid ffeiliau cerdd ac ebyst dros y rhyngrwyd a thrwy gyfrwng cynadledda fideo. Bydd cyfle hefyd i ryngweithio gyda thiwtoriaid y cwrs a myfyrwyr eraill trwy ddosbarthiadau a pherfformiadau rhithwir, hysbysfyrddau trafod ar-lein, a blogiau.

Gofynion Mynediad

Fel rheol, disgwylir i ymgeiswyr fod â gradd 2:1 mewn cerddoriaeth, ynghyd â phrofiad o weithio yn y diwydiant cerddoriaeth.

Fodd bynnag, ystyrir ymgeiswyr sydd wedi graddio mewn maes gwahanol ond sydd yn gerddorion gweithredol ochr yn ochr â’u cyflogaeth gyfredol hefyd.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi cael profiad sylweddol o weithio’n greadigol gydag adnoddau technoleg cerddoriaeth, a bod yn gwbl gysurus a chyfarwydd â chyfrifiaduron a’r rhyngrwyd.

Sut Mae Ymgeisio

I gael mynediad i’r gwrs yma, rhaid ymgeisio’n uniongyrchol i’r coleg gan ddefnyddio ein ffurflen gais.

Taliadau

Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl rhaglen ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn y cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol (Medi 2010 i Gorffenaf 2011) fydd £4,095.