MMus Perfformio Hanesyddol

Dwy Flynedd
Mae CBCDC wedi ennill ei blwyf erbyn hyn fel un o brif
gyrchfannau Ewrop ar gyfer astudio perfformio hanesyddol, gyda
staff digymar o athrawon ac artistiaid gwadd. I gyflenwi ei
hyfforddiant o safon bydeang, CBCDC yw unig conservatoire y DU sydd
â rhaglen Meistr mewn perfformio hanesyddol. Bydd y rhaglen, gan
ganolbwyntio ar ddwy nod gyflenwol perfformio ac ymchwilio, yn
ysgogi myfyrwyr i archwilio amrywiaeth eang o dechnegau er mwyn
gwneud eu perfformio mor effeithiol ag sy’n bosibl. Trwy drafod a
gwerthuso croes-ffrydiau cerddorol, hanesyddol ac athronyddol, bydd
myfyrwyr yn dyfnhau eu dealltwriaeth o esblygiad arddull gerddorol.
Trwy astudio ffynonellau gwreiddiol, dod yn gyfarwydd â phrosesau
trawsysgrifio a golygu, a chael gwybodaeth am berfformio â nodiant
a hebddo, byddant yn magu’r gallu i greu cyd-destun dynamig a
hyddysg i’w perfformiadau.
Gofynion Mynediad
Mae mynediad i’r cwrs hwn drwy wrandawiad. Disgwylir i chi
arddangos gallu perfformio addas ar gyfer hyfforddiant
conservatoire uwch.
Fel rheol, disgwylir i ymgeiswyr fod â gradd 2:1 mewn
cerddoriaeth, gydag elfen ymarferol sylweddol. Dylai ymgeiswyr sydd
â gradd ond nid mewn cerddoriaeth fod â diploma ymarferol o sylwedd
mewn cerddoriaeth.
Sut Mae Ymgeisio
Gwasanaeth Mynediad Conservatoires y DU, CUKAS, sy’n ymdrin â
cheisiadau ar gyfer cyrsiau cerddoriaeth yn CBCDC a’r rhan fwyaf o
conservatoires eraill y DU. Ceir cyfarwyddyd llawn ynglŷn ag
ymgeisio trwy CUKAS yn www.cukas.ac.uk. Mae CUKAS yn codi
£19.00 am ddefnyddio’r gwasanaeth. Gallwch gofrestru ar lein o’r
1af o Orffennaf 2011 yn www.cukas.ac.uk. Gallwch ddefnyddio’r
gwasanaeth 24 awr y dydd o unrhyw le yn y byd i greu, cyflwyno a
monitro hynt eich cais. At gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi
dylech anfon eich cais erbyn y 1af o Hydref 2011.
Efallai y gallwn dderbyn ceisiadau gan CUKAS wedi’r dyddiad hwn
os bydd llefydd yn dal i fod ar gael. Wedi’r 31ain o Fai 2011,
cysylltwch yn uniongyrchol â ni am wybodaeth ynglŷn ag ymgeisio’r
hwyr. Am wybodaeth bellach a chyngor ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS,
gallwch gysylltu ag Uned Gwasanaethau Cwsmeriaid CUKAS ar +44 (0)
871 468 0470 o ddydd Llun i ddydd Gwener o 08:30 tan 18:00.
Taliadau
Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl rhaglen
ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn ym mis Medi 2011 fydd £4,100
bob blwyddyn ar gyfer dwy flynedd (£8,200 yn y cyfanswm).