Meistr Cerddoriaeth (MMus)

Blwyddyn neu Ddwy Flynedd
Mewn rhai amgylchiadau, gellir cwblhau’r rhaglen hon, a gynigir
fel cwrs dwy-flynedd fel arfer, mewn blwyddyn o astudio dwys. Bydd
gweithgareddau prif astudiaeth yn cynnwys hyd at 60 awr o wersi
un-iun. Bydd offerynwyr a lleiswyr yn mynychu dosbarthiadau mewn
arfer perfformio a dadansoddi sgoriau perfformio. Byddwch hefyd yn
gwneud project ymchwil sylweddol, a gefnogir gan sesiynau tiwtorial
uni-un. Bydd yr astudiaethau hyn yn helpu i ddatblygu datganiad
terfynol awr o hyd, sef diweddglo’r cwrs. Os ydych yn arbenigo mewn
cyfansoddi neu dechnoleg cerddoriaeth creadigol, bydd dosbarthiadau
arbenigol yn cynnwys harmoni a gwrthbwynt uwch, dadansoddi ac
estheteg, sain a delwedd, technegau recordio ac offeryniaeth uwch.
Bydd yr astudiaethau hyn yn cefnogi datblygiad portffolio o
gyfansoddiadau a asesir. Mae cyfres o seminarau ar gyfer y rheini
sydd â diddordeb mewn ymchwil perfformio yn galluogi myfyrwyr i
gyflwyno papurau ar eu hymchwil cyfredol yn ogystal â darparu
fforwm ar gyfer trafodaeth eang.
Gofynion Mynediad
Mae mynediad i’r cwrs hwn i berfformwyr drwy wrandawiad.
Disgwylir i chi arddangos gallu perfformio addas ar gyfer
hyfforddiant conservatoire uwch.
Ar gyfer y disgyblaethau creadigol, gofynnir i ymgeiswyr fynychu
cyfweliad i drafod gwaith a gyflwynwyd ganddynt o flaen llaw.
Fel rheol, disgwylir i ymgeiswyr fod â gradd 2:1 mewn
cerddoriaeth, gydag elfen ymarferol neu greadigol sylweddol. Dylai
ymgeiswyr sydd â gradd ond nid mewn cerddoriaeth fod â diploma
ymarferol o sylwedd mewn cerddoriaeth.
Sut Mae Ymgeisio
Gwasanaeth Mynediad Conservatoires y DU, CUKAS, sy’n ymdrin â
cheisiadau ar gyfer cyrsiau cerddoriaeth yn CBCDC a’r rhan fwyaf o
conservatoires eraill y DU. Ceir cyfarwyddyd llawn ynglŷn ag
ymgeisio trwy CUKAS yn www.cukas.ac.uk. Mae CUKAS yn codi
£19.00 am ddefnyddio’r gwasanaeth. Gallwch gofrestru ar lein o’r
1af o Orffennaf 2011 yn www.cukas.ac.uk. Gallwch ddefnyddio’r
gwasanaeth 24 awr y dydd o unrhyw le yn y byd i greu, cyflwyno a
monitro hynt eich cais. At gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi
dylech anfon eich cais erbyn y 1af o Hydref 2011.
Efallai y gallwn dderbyn ceisiadau gan CUKAS wedi’r dyddiad hwn
os bydd llefydd yn dal i fod ar gael. Wedi’r 31ain o Fai 2011,
cysylltwch yn uniongyrchol â ni am wybodaeth ynglŷn ag ymgeisio’r
hwyr. Am wybodaeth bellach a chyngor ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS,
gallwch gysylltu ag Uned Gwasanaethau Cwsmeriaid CUKAS ar +44 (0)
871 468 0470 o ddydd Llun i ddydd Gwener o 08:30 tan 18:00.
Taliadau
Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl
hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn ym mis Medi 2011
fydd £4,100 bob blwyddyn ar gyfer y llwybr dwy flynedd (£8,200 yn y
cyfanswm). Y tâl rhaglen ar gyfer y llwybr un flwyddyn, lle ar
gael, fydd £7,700.