MA Theatr Gerddorol

Deuddeg Mis

Mae theatr gerddorol yn ffynnu a does dim diffyg cyfleoedd gwaith i berfformwyr dawnus wedi eu hyfforddi mewn actio, canu a dawnsio. Mae’r rhaglen newydd, arbenigol hon yn adeiladu ar sail record gref iawn CBCDC mewn paratoi cantorion ac actorion ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn theatr gerddorol ac mae’n cynnwys hyfforddiant dwys ym mhob un o’r tair disgyblaeth graidd. Mae gwersi un-i-un yn canolbwyntio ar dechneg canu, repertoire a chyfathrebu trwy gân. Mewn gweithdai, byddwch yn dysgu sgiliau dawnsio a symud penodol y genre, tra bod dosbarthiadau actio yn canolbwyntio’n neilltuol ar gymeriadu, gweithio’n effeithiol mewn ensemble, ac adeiladu perthynas gyda chynulleidfa. Bydd cyfleoedd perfformio cyhoeddus yn amrywio o gynyrchiadau agos-atoch i rai graddfa-fawr, gyda repertoire amrywiol. Bydd pob myfyriwr yn cymryd rhan mewn cyfres o gyflwyniadau stondin swyddogol yng Nghaerdydd a Llundain, sy’n cynnig cyfle i berfformio ar gyfer asiantiaid, cyfarwyddwyr castio a darpar-gyflogwyr eraill.

Gofynion Mynediad

Detholir ar sail gwrandawiadau. Fel rheol, dylai ymgeiswyr fod wedi cwblhau rhaglen is-raddedig yn y celfyddydau perfformio. Bydd ymgeiswyr angen sgiliau cryf yn y tair disgyblaeth – actio, canu a dawnsio – gyda lefel eithriadol o allu mewn dwy o leiaf.

Byddwn hefyd yn ystyried ymgeiswyr heb gymwysterau ffurfiol ond sydd yn gallu arddangos potensial proffesiynol yn y tair disgyblaeth.

Sut Mae Ymgeisio

I gael mynediad i’r gwrs yma, rhaid ymgeisio’n uniongyrchol i’r coleg gan ddefnyddio ein ffurflen gais.

Taliadau

Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl rhaglen ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn ym mis Ionawr 2011 fydd £11,200.