MA Rheoli Llwyfan

Blwyddyn Lawn-amser ynghyd â Modiwl Hyblyg,
Rhan-amser
Ar y rhaglen lawn-amser yma sy’n para o fis Ionawr i fis Medi,
byddwch yn dilyn cyfres o ddosbarthiadau ymarferol mewn rheoli
llwyfan, astudiaethau technegol (goleuo a sain), crefft llwyfan, a
rheoli digwyddiadau. Bydd gwaith cynhyrchu yn cychwyn gyda swydd o
fewn rhaglen ddigwyddiadau’r coleg ac wedi hynny cewch gyfle i
weithio yng ngofod perfformio’r coleg ar Ymylon Gŵyl Caeredin neu
gwblhau lleoliad gwaith proffesiynol amgen fel y sail i asesiad.
Bydd lleoliad pellach ar asesiad yn y diwydiant rhwng mis Hydref a
mis Ebrill yn cwblhau rhan gyntaf y rhaglen hon; bryd hynny,
byddwch yn gymwys i dderbyn cymhwyster Diploma Ôl-raddedig,wedi ei
achredu gan y Cyngor Hyfforddiant Drama Cenedlaethol. Gyda
chefnogaeth ymarferol ac academaidd a mentora gan diwtoriaid,
gallwch weithio wedyn tuag at gwblhau’r rhaglen Meistr ar sail
hyblyg, ran-amser trwy lunio portffolio meddylgar yn seiliedig ar
eich arfer proffesiynol.
Gofynion Mynediad
Bydd y gofynion mynediad lleiafswm nodweddiadol yn cynnwys gradd
neu gymhwyster cyfwerth ynghyd â phrofiad ymarferol perthnasol.
Fodd bynnag, ystyrir rhai sydd heb gymhwyster ffurfiol ond sydd
â phrofiad ymarferol sylweddol mewn rheoli llwyfan.
Detholir yn derfynol ar sail cyfweliad.
Sut Mae Ymgeisio
I gael mynediad i’r gwrs yma, rhaid ymgeisio’n uniongyrchol i’r
coleg gan ddefnyddio ein ffurflen gais.
Taliadau
Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl rhaglen
ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn ym mis Ionawr 2011 fydd
£6,700.