MA Rheolaeth yn y Celfyddydau

Llawn-amser neu Rhan-amser

Bydd y cwrs galwedigaethol hwn yn rhoi i chi’r sgiliau a’r hyder i fynd yn arweinydd ym maes dynamig rheolaeth yn y celfyddydau. Fe’i bwriedir ar gyfer graddedigion diweddar sydd am ddilyn gyrfa mewn rheolaeth yn y celfyddydau, a phobl sydd am adeiladu ar sail yr hyn a ddysgwyd ganddynt wrth weithio yn y celfyddydau. Mae’r rhaglen yn eich trwytho yn yr amrywiaeth eang o sgiliau a gwybodaeth sy’n ofynnol er mwyn rheoli sefydliadau celfyddydol yn effeithiol, yn cynnwys marchnata, codi arian, datblygu addysgol a chymunedol, rheoli digwyddiadau, technoleg gwybodaeth a chynllunio busnes. Elfen allweddol yn y cwrs yw’r lleoliad gwaith pum-wythnos. Caiff myfyrwyr elwa hefyd ar gyfleoedd i ddefnyddio’u gwybodaeth yn ymarferol o fewn canolfannau perfformio newydd cyffrous y coleg, a fydd yn llwyfannu amrediad eang o ddigwyddiadau celfyddydau perfformio a denu artistiaid o bedwar ban y byd. Rhan derfynol y cwrs Meistr yw datblygu cynllun busnes yn seiliedig ar eich gweledigaeth wreiddiol ar gyfer sefydliad celfyddydau o’ch dewis.

Gofynion Mynediad

Mae’r gofynion mynediad arferol yn cynnwys gradd dda mewn unrhyw bwnc.

Ystyrir ymgeiswyr heb gymwysterau ffurfiol os oes ganddynt o leiaf ddwy flynedd o brofiad perthnasol.

Detholir yn derfynol ar sail cyfweliad.

Sut Mae Ymgeisio

I gael mynediad i’r gwrs yma, rhaid ymgeisio’n uniongyrchol i’r coleg gan ddefnyddio ein ffurflen gais.

Taliadau

Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl rhaglen ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn ym mis Medi 2011 fydd £6,700 ar gyfer y llwybr un flywddyn, neu £3,590 bob blwyddyn ar gyfer y llwybr dwy flynedd (£7,180 yn y cyfanswm).