MA Perfformio Opera

Dwy Flynedd

Mae’r cwrs hwn yn darparu hyfforddiant eang perthnasol i anghenion a gofynion cwmnïau opera proffesiynol, gan fynd i’r afael â phroblemau cyflogadwyedd a fydd yn mynd yn fwyfwy pwysig yn ystod y degawd sydd i ddod. Byddwch yn derbyn hyfforddiant a gwersi canu un-i-un, hyfforddiant arbenigol mewn gwahanol ieithoedd, a dosbarthiadau cwbl integreiddiedig mewn crefft llwyfan, yn cynnwys symud a dawnsio. Trwy broses operatig gyffelyb i’r profiad proffesiynol, bydd y cwrs yn cefnogi datblygiad eich dealltwriaeth, eich dychymyg a’ch dawn fynegi. Yn ogystal â rhan bwysig mewn o leiaf un cynhyrchiad opera cyflawn, byddwch yn gweithio gyda repetiteurs a chyfarwyddwyr proffesiynol yn ystod y ddwy flynedd i baratoi cyflwyniadau o olygfeydd opera a fydd, fel rheol, yn cynnwys gweithiau baróc a chyfoes yn ogystal â repertoire safonol. Mae’r rhaglen hefyd yn darparu hyfforddiant dwys mewn techneg gwrandawiadau, gyda chyfraniadau gan aelodau staff ac artistiaid blaenllaw o gwmnïau opera, yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru.

Gofynion Mynediad

Fel rheol, disgwylir i ymgeiswyr fod â gradd 2:1 mewn cerddoriaeth, gydag elfen ymarferol sylweddol. Dylai ymgeiswyr sydd â gradd ond nid mewn cerddoriaeth fod â phrofiad sylweddol o fewn y maes.

Sut Mae Ymgeisio

Gwasanaeth Mynediad Conservatoires y DU, CUKAS, sy’n ymdrin â cheisiadau ar gyfer cyrsiau cerddoriaeth yn CBCDC a’r rhan fwyaf o conservatoires eraill y DU. Ceir cyfarwyddyd llawn ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS yn www.cukas.ac.uk. Mae CUKAS yn codi £19.00 am ddefnyddio’r gwasanaeth. Gallwch gofrestru ar lein o’r 1af o Orffennaf 2011 yn www.cukas.ac.uk. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth 24 awr y dydd o unrhyw le yn y byd i greu, cyflwyno a monitro hynt eich cais. At gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi dylech anfon eich cais erbyn y 1af o Hydref 2011.

Efallai y gallwn dderbyn ceisiadau gan CUKAS wedi’r dyddiad hwn os bydd llefydd yn dal i fod ar gael. Wedi’r 31ain o Fai 2011, cysylltwch yn uniongyrchol â ni am wybodaeth ynglŷn ag ymgeisio’r hwyr. Am wybodaeth bellach a chyngor ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS, gallwch gysylltu ag Uned Gwasanaethau Cwsmeriaid CUKAS ar +44 (0) 871 468 0470 o ddydd Llun i ddydd Gwener o 08:30 tan 18:00.

Taliadau

Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl rhaglen ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn ym mis Medi 2011 fydd £16,200.