MA Perfformio Cerddorol

Dwy Flynedd

Mae’r rhaglen radd Meistr yma, ar gyfer perfformwyr lefel-uwch, yn canolbwyntio ar berfformio ac astudiaethau perfformio ac yn pwysleisio myfyrio a meddwl beirniadol, i’ch galluogi i gyfathrebu’n hyderus fel cerddor proffesiynol â ffordd gelfydd a gwybodus o fynd ati. Mae gweithgareddau prif astudiaeth yn cynnwys hyd at 60 awr o wersi un-i-un, ynghyd ag amrywiaeth o ddosbarthiadau adrannol a gweithgareddau perfformio, yn cynnwys cerddoriaeth siambr a gwaith ensemble mawr. Bydd dosbarthiadau a seminarau cefnogol yn eich ysgogi i fyfyrio ar faterion yn ymwneud â chyflwyno perfformiad a chyfathrebu’n effeithiol fel cerddor. Un o elfennau craidd y rhaglen yw lleoliadau gwaith proffesiynol, sy’n eich galluogi i ymgysylltu â darpar-gyflogwyr mewn meysydd fel perfformio cerddorfaol, dysgu offeryn, cerddoriaeth gymunedol a gwaith allanol. I fyfyrwyr sydd wedi dysgu Saesneg fel iaith estron, mae’r rhaglen Meistr yn cynnwys hyfforddiant yn y Saesneg i gefnogi pob agwedd ar yr astudiaethau perfformio.

Gofynion Mynediad

Mae mynediad i’r cwrs hwn drwy wrandawiad. Disgwylir i chi arddangos gallu perfformio addas ar gyfer hyfforddiant conservatoire uwch.

Fel rheol, disgwylir i ymgeiswyr fod â gradd 2:1 mewn cerddoriaeth, gydag elfen ymarferol sylweddol. Dylai ymgeiswyr sydd â gradd ond nid mewn cerddoriaeth fod â diploma ymarferol o sylwedd mewn cerddoriaeth.

Ystyrir hefyd ymgeiswyr sydd heb gymwysterau ffurfiol ond a all arddangos lefel eithriadol o allu.

Sut Mae Ymgeisio

Gwasanaeth Mynediad Conservatoires y DU, CUKAS, sy’n ymdrin â cheisiadau ar gyfer cyrsiau cerddoriaeth yn CBCDC a’r rhan fwyaf o conservatoires eraill y DU. Ceir cyfarwyddyd llawn ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS yn www.cukas.ac.uk. Mae CUKAS yn codi £19.00 am ddefnyddio’r gwasanaeth. Gallwch gofrestru ar lein o’r 1af o Orffennaf 2011 yn www.cukas.ac.uk. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth 24 awr y dydd o unrhyw le yn y byd i greu, cyflwyno a monitro hynt eich cais. At gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi dylech anfon eich cais erbyn y 1af o Hydref 2011.

Efallai y gallwn dderbyn ceisiadau gan CUKAS wedi’r dyddiad hwn os bydd llefydd yn dal i fod ar gael. Wedi’r 31ain o Fai 2011, cysylltwch yn uniongyrchol â ni am wybodaeth ynglŷn ag ymgeisio’r hwyr. Am wybodaeth bellach a chyngor ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS, gallwch gysylltu ag Uned Gwasanaethau Cwsmeriaid CUKAS ar +44 (0) 871 468 0470 o ddydd Llun i ddydd Gwener o 08:30 tan 18:00.

Taliadau

Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn ym mis Medi 2011 fydd £4,100 bob blwyddyn ar gyfer dwy flynedd (£8,200 yn y cyfanswm).