MA Jazz

Dwy Flynedd

Mae’r rhaglen, sydd ar gyfer perfformwyr uwch, yn cyfuno datblygu ymwybyddiaeth ystyriol, feirniadol o’ch perfformiad eich hun ac ymdeimlad cryf o unigolyddiaeth â hyfforddiant proffesiynol perthnasol i’r diwydiant jazz cyfoes. Mae hyn yn cynnwys cyfansoddi, gosod, arwain band, hunan-hyrwyddo a rheoli digwyddiadau. Cynigir hyfforddiant un-i-un ar y bas, drymiau, ffliwt, gitâr, piano, sacsoffon, trombôn, utgorn, llais, ac offerynnau eraill drwy drefniant gydag arweinydd y cwrs. Mae dosbarthiadau grŵp seiliedig ar berfformio yn astudio repertoire safonol a chyfoes gan weithio mewn deuawdau, triawdau, pedwarawdau, band mawr, ensembles jazz a chôr jazz. Mae’r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o lwyfannau perfformio, yn cynnwys gweithdai ysgolion, sesiynau jamio, gigs mewn clybiau jazz, dosbarthiadau meistr, rhaglenni teithiol ac ymddangosiadau mewn gwyliau mawr. Nod y cwrs yw dysgu i fyfyrwyr sgiliau mewn amrywiaeth o arddulliau o fewn yr idiom jazz, a dealltwriaeth aeddfed o iaith, prosesau a thechnegau jazz.

Gofynion Mynediad

Fel rheol, disgwylir i ymgeiswyr fod â gradd 2:1 mewn cerddoriaeth, gydag elfen ymarferol sylweddol. Dylai ymgeiswyr sydd â gradd ond nid mewn cerddoriaeth fod â phrofiad sylweddol o fewn y maes jazz.

Sut Mae Ymgeisio

Gwasanaeth Mynediad Conservatoires y DU, CUKAS, sy’n ymdrin â cheisiadau ar gyfer cyrsiau cerddoriaeth yn CBCDC a’r rhan fwyaf o conservatoires eraill y DU. Ceir cyfarwyddyd llawn ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS yn www.cukas.ac.uk. Mae CUKAS yn codi £19.00 am ddefnyddio’r gwasanaeth. Gallwch gofrestru ar lein o’r 1af o Orffennaf 2011 yn www.cukas.ac.uk. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth 24 awr y dydd o unrhyw le yn y byd i greu, cyflwyno a monitro hynt eich cais. At gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi dylech anfon eich cais erbyn y 1af o Hydref 2011.

Efallai y gallwn dderbyn ceisiadau gan CUKAS wedi’r dyddiad hwn os bydd llefydd yn dal i fod ar gael. Wedi’r 31ain o Fai 2011, cysylltwch yn uniongyrchol â ni am wybodaeth ynglŷn ag ymgeisio’r hwyr. Am wybodaeth bellach a chyngor ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS, gallwch gysylltu ag Uned Gwasanaethau Cwsmeriaid CUKAS ar +44 (0) 871 468 0470 o ddydd Llun i ddydd Gwener o 08:30 tan 18:00.

Taliadau

Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn ym mis Medi 2011 fydd £4,100 bob blwyddyn ar gyfer dwy flynedd (£8,200 yn y cyfanswm).