MA Cynllunio Theatr

Blwyddyn Lawn-amser ynghyd â Modiwl Hyblyg, Rhan-amser

Os ydych eisoes yn gweithio yn y diwydiant ac am astudio ar sail hyblyg, ran-amser, gellir dewis cyflwyno portffolio o dystiolaeth yn seiliedig ar eich arfer proffesiynol, tra’n parhau i weithio. Neu mi allwch drwytho eich hun mewn rhaglen flwyddyn, lawn-amser o ddosbarthiadau sgiliau a rhai’n seiliedig ar broject, a bwrw ati’n ymarferol gyda gwaith cynhyrchu byw. Gallwch arbenigo mewn senograffiaeth (cynllunio set a gwisgoedd), cynllunio set, cynllunio gwisgoedd, llunio gwisgoedd, cynllunio goleuo, cynllunio sain neu bypedwaith. Pa lwybr bynnag a ddewisir, byddwch yn cymryd rhan mewn arddangosfa fyw ar gyfer darpar-gyflogwyr yng Nghaerdydd a Llundain. Yr elfen derfynol yn y radd Meistr yw portffolio meddylgar yn seiliedig ar eich ymrwymiadau proffesiynol o fewn y diwydiant. Bydd y Coleg yn eich helpu i ganfod ymrwymiadau proffesiynol addas yn ogystal â darparu cefnogaeth ymarferol ac academaidd. Mae’r amserlen ar gyfer cwblhau’r elfen hon yn flwyddyn i bum mlynedd, yn dibynnu ar natur neilltuol eich ymrwymiad proffesiynol.

Gofynion Mynediad

Bydd y gofynion mynediad lleiafswm arferol yn cynnwys gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc celf a dylunio.

Bydd ymgeiswyr heb gymwysterau ffurfiol ond sydd â lefel eithriadol o allu ymarferol, profiad a chynnwys portffolio addas hefyd yn cael eu hystyried.

Bydd y detholiad terfynol ar sail cyfweliad a phortffolio.

Sut Mae Ymgeisio

I gael mynediad i’r gwrs yma, rhaid ymgeisio’n uniongyrchol i’r coleg gan ddefnyddio ein ffurflen gais.

Taliadau

Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl rhaglen ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn ym mis Medi 2011 fydd £6,700.