MA Cynhyrchu Digwyddiadau

Blwyddyn Lawn-amser ynghyd â Modiwl Hyblyg, Rhan-amser

Mae’r rhaglen hon – ar gyfer pobl â’u bryd ar yrfa mewn digwyddiadau fel Rheolwyr Cynhyrchu, Rheolwyr Technegol, Rheolwyr Safle a Rheolwyr Llwyfan – yn adeiladu ar sail eich profiad blaenorol mewn cynhyrchu digwyddiadau ac yn datblygu’r sgiliau uwch a’r wybodaeth arbenigol ofynnol er mwyn hyrwyddo’ch gyrfa yn y diwydiant hwn. Mae’r flwyddyn gyntaf yn rhaglen ddwys, lawn-amser sy’n cyfuno elfennau a ddysgir a gwaith ymarferol ar o leiaf dri digwyddiad byw, yn cynnwys sioe fasnach, sioe ffasiynau, a pharti mawr neu ddawns haf. Mae lleoliad gwaith chwe-wythnos yn y diwydiant perthnasol i’ch diddordebau proffesiynol yn elfen graidd arall yn yr hyfforddiant. Gyda chefnogaeth ymarferol ac academaidd a mentora gan diwtoriaid, byddwch yn gweithio wedyn tuag at gwblhau’r rhaglen Meistr ar sail hyblyg, ran-amser trwy lunio portffolio meddylgar yn seiliedig ar eich arfer proffesiynol.

Gofynion Mynediad

Bydd y gofynion mynediad lleiafswm nodweddiadol yn cynnwys gradd neu gymhwyster cyfwerth ynghyd â phrofiad ymarferol perthnasol.

Fodd bynnag, ystyrir rhai sydd heb gymhwyster ffurfiol ond sydd â phrofiad ymarferol sylweddol.

Rhaid i ymgeiswyr fod ag awydd profedig am weithio yn y diwydiant digwyddiadau byw.

Detholir yn derfynol ar sail cyfweliad.

Sut Mae Ymgeisio

I gael mynediad i’r gwrs yma, rhaid ymgeisio’n uniongyrchol i’r coleg gan ddefnyddio ein ffurflen gais.

Taliadau

Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl rhaglen ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn ym mis Ionawr 2011 fydd £6,700.