MA Celfyddydau Golygfaol ac Adeiladu ar gyfer y Llwyfan a’r
Sgrîn

Blwyddyn Lawn-amser ynghyd â Modiwl Hyblyg,
Rhan-amser
Mae’r rhaglen hon, sydd ar gyfer pobl sydd am fod yn arweinwyr
ym maes gwireddu golygfaol fel Rheolwyr Project, Rheolwyr Cynhyrchu
neu Gyfarwyddwyr Celf, yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau
rheoli a’r wybodaeth broffesiynol angenrheidiol. Mae’r rhaglen
flwyddyn, lawn-amser yn cynnwys dosbarthiadau seiliedig ar broject,
gwaith ymarferol ar gynyrchiadau byw a lleoliad gwaith
proffesiynol. Byddwch yn magu dealltwriaeth drylwyr o’r broses
gynllunio a gwybodaeth gymwysedig o holl feysydd rheoli project fel
adeiladu, amserlennu, cyllidebu, iechyd a diogelwch, a rheoli risg.
Gan weithio gyda BBC Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, y Theatr
Genedlaethol ac Adran Gynllunio Ffilm a Theledu Prifysgol
Morgannwg, byddwch yn magu profiad helaeth o arfer proffesiynol. Ar
ôl cwblhau’r rhaglen flwyddyn, lawn-amser, byddwch yn gweithio
wedyn ar ran derfynol y rhaglen Meistr ar sail hyblyg, ran-amser
trwy lunio portffolio meddylgar yn seiliedig ar eich ymrwymiad
proffesiynol.
Gofynion Mynediad
Bydd y gofynion mynediad lleiafswm arferol yn cynnwys gradd neu
gymhwyster cyfwerth mewn pwnc celf a dylunio.
Bydd ymgeiswyr heb gymwysterau ffurfiol ond sydd â lefel
eithriadol o allu ymarferol, profiad a chynnwys portffolio addas
hefyd yn cael eu hystyried.
Bydd y detholiad terfynol ar sail cyfweliad a phortffolio.
Sut Mae Ymgeisio
I gael mynediad i’r gwrs yma, rhaid ymgeisio’n uniongyrchol i’r
coleg gan ddefnyddio ein ffurflen gais.
Taliadau
Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl rhaglen
ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn ym mis Medi 2011 fydd
£6,700.