MA Arwain Corawl

Dwy Flynedd

Bydd y cwrs arloesol hwn yn rhoi i chi’r sgiliau cerddorol a thechnegol i allu arwain amrywiaeth fawr o wahanol fathau o gorau yn hyderus. Yn ychwanegol at 45 awr o hyfforddiant un-i-un mewn techneg arwain, byddwch hefyd yn derbyn gwersi canu unigol. Byddwch yn cymryd rhan yn ymarferion rheolaidd un o grwpiau corawl y coleg gan ddefnyddio amrywiaeth eang o repertoire. Dilynir pob sesiwn gan ddadansoddiad trylwyr o’ch cyfraniad. Bydd sesiynau ychwanegol ar repertoire corawl, sgiliau gweithdy a rihyrsal, dadadansoddi/paratoi sgôr, a sgiliau clywedol. Bydd cyfle i fynd ar leoliadau proffesiynol mewn ysgolion neu gyda chorau ieuenctid cymunedol, a byddwch yn datblygu dulliau arbenigol o weithio gyda phobl ifanc. Byddwch hefyd yn cael cyfle i arwain côr y coleg ar sail reolaidd a byddwch yn cael eich annog i ffurfio ac arwain ensembles lleisiol eraill o fyfyrwyr o fewn y coleg.

Gofynion Mynediad

Fel rheol, disgwylir i ymgeiswyr fod â gradd 2:1 mewn cerddoriaeth, gydag elfen ymarferol sylweddol. Dylai ymgeiswyr sydd â gradd ond nid mewn cerddoriaeth fod â phrofiad sylweddol ym maes cerddoriaeth glasurol.

Sut Mae Ymgeisio

Gwasanaeth Mynediad Conservatoires y DU, CUKAS, sy’n ymdrin â cheisiadau ar gyfer cyrsiau cerddoriaeth yn CBCDC a’r rhan fwyaf o conservatoires eraill y DU. Ceir cyfarwyddyd llawn ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS yn www.cukas.ac.uk. Mae CUKAS yn codi £19.00 am ddefnyddio’r gwasanaeth. Gallwch gofrestru ar lein o’r 1af o Orffennaf 2011 yn www.cukas.ac.uk. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth 24 awr y dydd o unrhyw le yn y byd i greu, cyflwyno a monitro hynt eich cais. At gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi dylech anfon eich cais erbyn y 1af o Hydref 2011.

Efallai y gallwn dderbyn ceisiadau gan CUKAS wedi’r dyddiad hwn os bydd llefydd yn dal i fod ar gael. Wedi’r 31ain o Fai 2011, cysylltwch yn uniongyrchol â ni am wybodaeth ynglŷn ag ymgeisio’r hwyr. Am wybodaeth bellach a chyngor ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS, gallwch gysylltu ag Uned Gwasanaethau Cwsmeriaid CUKAS ar +44 (0) 871 468 0470 o ddydd Llun i ddydd Gwener o 08:30 tan 18:00.

Taliadau

Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn ym mis Medi 2011 fydd £4,100 bob blwyddyn ar gyfer dwy flynedd (£8,200 yn y cyfanswm).