MA Actio Llwyfan, Sgrîn a Radio

Pedwar Mis ar Ddeg
Nod y rhaglen ddwys iawn hon yw galluogi myfyrwyr i sefydlu a
chynnal gyrfa lwyddiannus yn y theatr, teledu, ffilm a radio. Mae
gan y coleg enw da iawn o fewn y diwydiant am gynhyrchu perfformwyr
hyderus ac amryddawn sy’n gallu ymateb yn dda i ofynion y
proffesiwn actio cyfoes. Mae’r rhaglen yn cwmpasu cyfres o weithdai
ymarferol i gyflwyno’r dulliau sylfaenol sydd ar gael i actorion,
drwy waith byrfyfyr, cymeriadu a chreu perthynas. Bydd
dosbarthiadau hefyd mewn sgiliau symud a lleisio arbenigol, ac
ymladd llwyfan. Bydd cyfnod o ymarfer dwys yn dod i uchafbwynt mewn
perfformiadau cyhoeddus mewn dau gynhyrchiad gwahanol a chyfres o
gyflwyniadau stondin swyddogol yng Nghaerdydd a Llundain sy’n
cynnig cyfle i fyfyrwyr i berfformio ar gyfer asiantiaid,
cyfarwyddwyr castio a darpar-gyflogwyr eraill. Mae creu a gwireddu
darn gwreiddiol o waith i’w berfformio yn ganolog i ennill y
cymhwyster Meistr.
Gofynion Mynediad
Detholir ar sail gwrandawiadau. Fel rheol, dylai ymgeiswyr fod
wedi cwblhau cwrs gradd. Byddwn hefyd yn ystyried ymgeiswyr heb
gymwysterau ffurfiol sydd â lefel eithriadol o allu ymarferol.
Sut Mae Ymgeisio
I gael mynediad i’r gwrs yma, rhaid ymgeisio’n uniongyrchol i’r
coleg gan ddefnyddio ein ffurflen gais.
Taliadau
Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl rhaglen
ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn ym mis Medi 2011 fydd
£8,200.