Diploma Ôl-raddedig mewn Cerddoriaeth

Blwyddyn neu Ddwy Flynedd

Os buoch yn astudio neu’n gweithio mewn maes arall neu os oes gennych radd gyntaf eang ei sail mewn cerddoriaeth, bydd y rhaglen ddwys hon yn eich galluogi i ganolbwyntio ar hogi’ch sgiliau ymarferol a pherfformio i’r safon ofynnol ar gyfer gyrfa fel cerddor proffesiynol. Gellir cwblhau’r rhaglen dros gyfnod o flwyddyn neu ddwy flynedd, yn dibynnu ar ofynion ac amgylchiadau unigol. Mae gweithgareddau prif astudiaeth yn cynnwys hyd at 45 awr o wersi un-i-un. Caiff myfyrwyr llinynnau, pres, chwythbrennau a llais ddogn ychwanegol o amser gyda chyfeilydd neu hyfforddydd proffesiynol. Er mwyn cefnogi datblygiad eich sgiliau proffesiynol a’ch hyder cerddorol, ceir dosbarthiadau mewn sgiliau cyflwyno, repertoire unawdol a cherddorfaol, hyfforddiant ensemble, gwaith operatig ac arfer perfformio. Mae opsiynau arbenigol ar gyfer myfyrwyr cyfansoddi neu dechnoleg cerddoriaeth creadigol yn cynnwys harmoni a gwrthbwynt uwch, dadansoddi ac estheteg, sain a delwedd, technegau recordio, ac offeryniaeth uwch. I’ch helpu i ddechrau cynllunio a pharatoi ar gyfer eich gyrfa, bydd cyfres o seminarau sgiliau busnes yn ymdrin â gwahanol agweddau ar fywyd proffesiynol, o hyrwyddo cyngherddau i drethiant.

Gofynion Mynediad

Mae mynediad i’r cwrs hwn i berfformwyr drwy wrandawiad. Disgwylir i chi arddangos gallu perfformio addas ar gyfer hyfforddiant conservatoire uwch.

Ar gyfer y disgyblaethau creadigol, gofynnir i ymgeiswyr fynychu cyfweliad i drafod gwaith a gyflwynwyd ganddynt o flaen llaw.

Fel rheol, disgwylir i ymgeiswyr fod â gradd gyntaf neu gymhwyster cyfwerth.

Ystyrir hefyd ymgeiswyr sydd heb gymwysterau ffurfiol ond a all arddangos lefel eithriadol o allu.

Sut Mae Ymgeisio

Gwasanaeth Mynediad Conservatoires y DU, CUKAS, sy’n ymdrin â cheisiadau ar gyfer cyrsiau cerddoriaeth yn CBCDC a’r rhan fwyaf o conservatoires eraill y DU. Ceir cyfarwyddyd llawn ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS yn www.cukas.ac.uk. Mae CUKAS yn codi £19.00 am ddefnyddio’r gwasanaeth. Gallwch gofrestru ar lein o’r 1af o Orffennaf 2011 yn www.cukas.ac.uk. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth 24 awr y dydd o unrhyw le yn y byd i greu, cyflwyno a monitro hynt eich cais. At gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi dylech anfon eich cais erbyn y 1af o Hydref 2011.

Efallai y gallwn dderbyn ceisiadau gan CUKAS wedi’r dyddiad hwn os bydd llefydd yn dal i fod ar gael. Wedi’r 31ain o Fai 2011, cysylltwch yn uniongyrchol â ni am wybodaeth ynglŷn ag ymgeisio’r hwyr. Am wybodaeth bellach a chyngor ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS, gallwch gysylltu ag Uned Gwasanaethau Cwsmeriaid CUKAS ar +44 (0) 871 468 0470 o ddydd Llun i ddydd Gwener o 08:30 tan 18:00.

Taliadau

Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y tâl rhaglen ar gyfer myfyrwyr o’r DU yn cychwyn ym mis Medi 2011 fydd £7,700 ar gyfer y llwybr un flwyddyn, neu £4,050 y flwyddyn ar gyfer y llwybr dwy flynedd.