BMus (Anrh) Jazz

Pedair Blynedd

Mae’r radd jazz bwrpasol hon yn cwmpasu llu o wahanol gyfloedd i berfformio ynghyd â hyfforddiant proffesiynol yn gysylltiedig â’r diwydiant jazz cyfoes. Cynigir hyfforddiant unigol ar y bas, drymiau, ffliwt, gitâr, piano, sacsoffon, trombôn, utgorn, llais, ac offerynnau eraill drwy drefniant gydag arweinydd y cwrs. Mae dosbarthiadau grŵp seiliedig ar berfformio yn canolbwyntio ar y repertoire safonol a chyfoes, gan weithio mewn deuawdau, triawdau, pedwarawdau, band mawr, ensembles jazz a chôr jazz. Mae’r rhaglenyn cynnwys amrywiaeth o lwyfannau perfformio, yn cynnwys gweithdai ysgolion, sesiynau jamio, perfformio mewn clybiau jazz, dosbarthiadau meistr, rhaglenni teithiol ac ymddangosiadau mewn prif wyliau. Nod y cwrs yw dysgu sgiliau i fyfyrwyr ar draws amrywiaeth o arddulliau o fewn yr idiom jazz a’u galluogi i fagu dealltwriaeth aeddfed o iaith, prosesau a repertoire jazz tra’n dysgu sgiliau cyfansoddi, gosod, arwain band, hunan-hyrwyddo a rheoli digwyddiadau.

Gofynion Mynediad

Mae mynediad i’r cwrs hwn drwy wrandawiad. Disgwylir i chi arddangos gallu cerddorol cyfwerth â safon Rhagoriaeth ABRSM Gradd VIII.

Ar ôl llwyddo mewn gwrandawiad neu gyfweliad, disgwylir i ymgeiswyr ennill cymwysterau mynediad lleiafswm a all gynnwys Lefelau Uwch, Lefelau Uwch Yr Alban, Diploma/Tystysgrif Cenedlaethol BTEC, GNVQ Uwch, TAAU neu Ddiploma Uwch (Lefel 3).

Dylech hefyd fod wedi ennill Gradd V theori ABRSM.

Ystyrir hefyd ymgeiswyr sydd heb gymwysterau ffurfiol ond a all arddangos lefel eithriadol o allu.

Sut Mae Ymgeisio

Gwasanaeth Mynediad Conservatoires y DU, CUKAS, sy’n ymdrin â cheisiadau ar gyfer cyrsiau cerddoriaeth yn CBCDC a’r rhan fwyaf o conservatoires eraill y DU. Ceir cyfarwyddyd llawn ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS yn www.cukas.ac.uk. Mae CUKAS yn codi £19.00 am ddefnyddio’r gwasanaeth. Gallwch gofrestru ar lein o’r 1af o Orffennaf 2011 yn www.cukas.ac.uk. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth 24 awr y dydd o unrhyw le yn y byd i greu, cyflwyno a monitro hynt eich cais. At gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi dylech anfon eich cais erbyn y 1af o Hydref 2011.

Efallai y gallwn dderbyn ceisiadau gan CUKAS wedi’r dyddiad hwn os bydd llefydd yn dal i fod ar gael. Wedi’r 31ain o Fai 2011, cysylltwch yn uniongyrchol â ni am wybodaeth ynglŷn ag ymgeisio’r hwyr. Am wybodaeth bellach a chyngor ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS, gallwch gysylltu ag Uned Gwasanaethau Cwsmeriaid CUKAS ar +44 (0) 871 468 0470 o ddydd Llun i ddydd Gwener o 08:30 tan 18:00.

Taliadau

Mae’r tâl hyfforddiant blynyddol ar gyfer myfyrwyr o’r DU ar bob cwrs i is-raddedigion yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi ei bennu gan Lywodraeth y Cynulliad yn unol â phrifysgolion a cholegau eraill yng Nghymru. Mae’r tâl hyfforddi yn £3,290 y flwyddyn am mynediad yn 2010.