BMus (Anrh) Cerddoriaeth

Pedair Blynedd

Dyfeisiwyd y rhaglen bell-gyrhaeddod hon i gynnig dewis cynhwysfawr o weithgareddau perfformio ynghyd â chyfle i ddarganfod sgiliau newydd cyflenwol a fydd yn eich helpu i sefydlu gyrfa lwyddiannus fel cerddor proffesiynol. Bydd gwersi un-i-un yn canobwyntio ar ddatblygiad eich sgiliau technegol a’ch hyder cerddorol. Bydd myfyrwyr llinynnau, pres, chwythbrennau a llais yn cael dogn ychwanegol o amser gyda chyfeilydd neu hyfforddydd proffesiynol. Bydd dosbarthiadau grŵp yn canolbwyntio ar sgiliau cyflwyno, repertoire unawdol a cherddorfaol, gwaith ensemble ac arfer perfformio. Ceir amrywiaeth o ddosbarthiadau arbenigol ar gyfer rhai sy’n astudio cyfansoddi neu dechnoleg cerddoriaeth creadigol. Mae lleoliadau gwaith proffesiynol yn nodwedd fwyfwy pwysig yn y cwrs, sy’n eich helpu i greu rhwydwaith cyflogaeth defnyddiol ac adeiladu eich CV. Mae’r amrediad o gyfleoedd yn adlewyrchu amrywiaeth y proffesiwn cerddorol cyfoes, yn cynnwys perfformio, gwaith stiwdio, rheoli digwyddiadau, darlledu, dysgu, a gwaith cymuol. Bydd cyfle hefyd i astudio am dri mis yn un o’r conservatoires Ewropeaidd sy’n bartneriaid i ni.

Gofynion Mynediad

Mae mynediad i’r cwrs hwn i berfformwyr drwy wrandawiad. Disgwylir i chi arddangos gallu cerddorol cyfwerth â safon Rhagoriaeth ABRSM Gradd VIII.

Ar gyfer y disgyblaethau creadigol, gofynnir i ymgeiswyr fynychu cyfweliad i drafod gwaith a gyflwynwyd ganddynt o flaen llaw.

Ar ôl llwyddo mewn gwrandawiad neu gyfweliad, disgwylir i ymgeiswyr ennill cymwysterau mynediad lleiafswm a all gynnwys Lefelau Uwch, Lefelau Uwch Yr Alban, Diploma/Tystysgrif Cenedlaethol BTEC, GNVQ Uwch, TAAU neu Ddiploma Uwch (Lefel 3).

Dylech hefyd fod wedi ennill Gradd V theori ABRSM.

Ystyrir hefyd ymgeiswyr sydd heb gymwysterau ffurfiol ond a all arddangos lefel eithriadol o allu.

Sut Mae Ymgeisio

Gwasanaeth Mynediad Conservatoires y DU, CUKAS, sy’n ymdrin â cheisiadau ar gyfer cyrsiau cerddoriaeth yn CBCDC a’r rhan fwyaf o conservatoires eraill y DU. Ceir cyfarwyddyd llawn ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS yn www.cukas.ac.uk. Mae CUKAS yn codi £19.00 am ddefnyddio’r gwasanaeth. Gallwch gofrestru ar lein o’r 1af o Orffennaf 2011 yn www.cukas.ac.uk. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth 24 awr y dydd o unrhyw le yn y byd i greu, cyflwyno a monitro hynt eich cais. At gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi dylech anfon eich cais erbyn y 1af o Hydref 2011.

Efallai y gallwn dderbyn ceisiadau gan CUKAS wedi’r dyddiad hwn os bydd llefydd yn dal i fod ar gael. Wedi’r 31ain o Fai 2011, cysylltwch yn uniongyrchol â ni am wybodaeth ynglŷn ag ymgeisio’r hwyr. Am wybodaeth bellach a chyngor ynglŷn ag ymgeisio trwy CUKAS, gallwch gysylltu ag Uned Gwasanaethau Cwsmeriaid CUKAS ar +44 (0) 871 468 0470 o ddydd Llun i ddydd Gwener o 08:30 tan 18:00.

Taliadau

Mae’r tâl hyfforddiant blynyddol ar gyfer myfyrwyr o’r DU ar bob cwrs i is-raddedigion yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi ei bennu gan Lywodraeth y Cynulliad yn unol â phrifysgolion a cholegau eraill yng Nghymru. Mae’r tâl hyfforddi yn £3,290 y flwyddyn am mynediad yn 2010.