BA (Anrh) Cynllunio Theatr

Tair Blynedd
Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyflwyniad heriol i ddamcaniaeth ac
arfer cynllunio cysylltiedig â pherfformiad. Mae tîm y coleg o
diwtoriaid proffesiynol profiadol yn cynnig hyfforddiant arbenigol
mewn darlunio technegol, CAD, torri patrymau, creu gwisgoedd,
gwneud hetiau, teilwriaeth, gwneud modelau, adeiladu a gweithredu
pypedau, celf olygfaol a gwneud celfi llwyfan. Mae’r rhaglen yn
hyblyg iawn, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio ar feysydd o
ddiddordeb neilltuol trwy ddosbarthiadau sgiliau uwch, projectau
cysyniadol a gwaith seiliedig ar berfformio yn yr ail a’r drydedd
flwyddyn. Mae astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol yn rhan
bwysig o’r hyfforddiant, ac anogir myfyrwyr i ymchwilio a myfyrio
ar eu harfer eu hunain. Mae’r rhaglen yn cynnwys teithiau maes,
darlithiau a seminarau yn canolbwyntio ar ddatblygiadau pwysig yn
hanes y theatr, celf, pensaernïaeth, cynllunio a gwisgoedd.
Gofynion Mynediad
Disgwylir i ymgeiswyr fod â, neu fod wrthi’n astudio am, Lefelau
Uwch neu gymhwyster cyfwerth fel Lefel Uwch yr Alban,
Diploma/Tystysgrif Cenedlaethol BTEC, CBC, Bagloriaeth Ryngwladol,
GNVQ Uwch, TAAU neu Ddiploma Uwch (lefel 3).
Gallwn ystyried ceisiadau gan bobl heb gymwysterau ffurfiol os
gallant arddangos lefel eithriadol o allu ymarferol.
Dylai ymgeiswyr fod â chymwyster mewn Celf a Dylunio (neu fod
wrthi’n astudio am un), sef cwrs celf sylfaen blwyddyn o hyd fel
arfer.
Detholir yn derfynol ar sail cyfweliad a chyflwyniad
portffolio.
Sut Mae Ymgeisio
Dylid ymgeisio ar gyfer y cwrs yma drwy Wasanaeth Mynediad y
Prifysgolion a’r Colegau, UCAS.
Os ydych yn yr ysgol neu mewn coleg yn y DU, rhaid i chi gael
cyfrinair gan eich athro/athrawes neu gynghorydd gyrfaoedd er mwyn
cofrestru gydag UCAS. Os ydych yn ymgeisydd annibynnol neu’n byw y
tu allan i’r DU, dylech ddefnyddio system ymgeisio ar-lein UCAS,
www.ucas.com. Y tâl am y
gwasanaeth yma yw £11 i ymgeisio am un cwrs neu £21 am hyd at bum
cwrs. Dylech ddefnyddio adran ‘datganiad personol’ ffurflen UCAS i
arddangos diddordeb profedig a phrofiad perthnasol yn eich dewis
faes. Ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi 2011, dylech anfon
eich cais erbyn y 15fed o Ionawr 2011. Dim ond os oes llefydd ar
gael o hyd y gallwn dderbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad yma. Rydym yn
argymell y dylech ymgeisio cyn gynted â phosib.
Taliadau
Mae’r tâl hyfforddiant blynyddol ar gyfer myfyrwyr o’r DU ar bob
cwrs i is-raddedigion yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
wedi ei bennu gan Lywodraeth y Cynulliad yn unol â phrifysgolion a
cholegau eraill yng Nghymru. Mae’r tâl hyfforddi yn £3,290 y
flwyddyn am mynediad yn 2010.