BA (Anrh) Actio

Tair Blynedd

Nod y cwrs yw sicrhau fod gan fyfyrwyr gymaint o gyfle ag sy’n bosibl o weithio’n llwyddiannus fel actorion ar ôl graddio. Dim ond 20 lle sydd ar gael bob blwyddyn, felly mae maint y grwpiau yn fach a gall athrawon ddatblygu perthynas waith glòs gyda myfyrwyr, gan nodi a meithrin ansoddau unigryw pob unigolyn. Mae’r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant hanfodol mewn actio, lleisio, symud ac ymladd llwyfan, a gyfunir mewn cyfres o brojectau a fydd yn canolbwyntio ar Shakepeare, comedi, theatr gerdd, theatr arbrofol, ffilmiau, teledu a radio. Gyda myfyrwyr wedi eu castio mewn hyd at bump o gynyrchiadau cyhoeddus gwahanol yr un, mae’r flwyddyn olaf yn seiliedig ar ymarfer dwys. Mae cyfres o gyflwyniadau stondin swyddogol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gradd i berfformio ar gyfer asiantiaid, cyfarwyddwyr castio a darpar-gyflogwyr eraill yng Nghaerdydd a Llundain.

Gofynion Mynediad

Disgwylir i ymgeiswyr fod â, neu fod wrthi’n astudio am, Lefelau Uwch neu gymhwyster cyfwerth fel Lefel Uwch yr Alban, Diploma/Tystysgrif Cenedlaethol BTEC, CBC, Bagloriaeth Ryngwladol, GNVQ Uwch, TAAU neu Ddiploma Uwch (lefel 3).

Ystyrir hefyd ymgeiswyr sydd heb gymwysterau ffurfiol ond a all arddangos lefel eithriadol o allu.

Gwahoddir pob ymgeisydd sy’n bodloni’r gofynion mynediad lleiafswm i fynychu gwrandawiad.

Sut Mae Ymgeisio

Dylid ymgeisio ar gyfer y cwrs yma drwy Wasanaeth Mynediad y Prifysgolion a’r Colegau, UCAS.

Os ydych yn yr ysgol neu mewn coleg yn y DU, rhaid i chi gael cyfrinair gan eich athro/athrawes neu gynghorydd gyrfaoedd er mwyn cofrestru gydag UCAS. Os ydych yn ymgeisydd annibynnol neu’n byw y tu allan i’r DU, dylech ddefnyddio system ymgeisio ar-lein UCAS, www.ucas.com. Y tâl am y gwasanaeth yma yw £11 i ymgeisio am un cwrs neu £21 am hyd at bum cwrs. Dylech ddefnyddio adran ‘datganiad personol’ ffurflen UCAS i arddangos diddordeb profedig a phrofiad perthnasol yn eich dewis faes. Ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi 2011, dylech anfon eich cais erbyn y 15fed o Ionawr 2011. Dim ond os oes llefydd ar gael o hyd y gallwn dderbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad yma. Rydym yn argymell y dylech ymgeisio cyn gynted â phosib.

A fyddech cystal â nodi na allwn ystyried ceisiadau am fynediad gohiriedig ar gyfer y cwrs BA (Anrh) Actio.

Taliadau

Mae’r tâl hyfforddiant blynyddol ar gyfer myfyrwyr o’r DU ar bob cwrs i is-raddedigion yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi ei bennu gan Lywodraeth y Cynulliad yn unol â phrifysgolion a cholegau eraill yng Nghymru. Mae’r tâl hyfforddi yn £3,290 y flwyddyn am mynediad yn 2010.