Undeb y Myfyrwyr

Mae ein Hundeb Myfyrwyr (UyM) llwyddiannus iawn yn chwarae rhan ganolog ym mywyd y coleg. Mae swyddfeydd UyM yn stafell gyffredin y myfyrwyr ac mae’r rhain, ynghyd â’r Pennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr, yn ganolbwynt gwybodaeth a chyngor ar gyfer myfyrwyr.

UyM sydd hefyd yn rhedeg barrau’r coleg, lle cynhelir rhaglenni bywiog o adloniant, yn cynnwys cwis wythnosol, nosweithiau cerddoriaeth fyw rheolaidd, a digwyddiadau arbennig fel y Noson Bafaria fythol boblogaidd.

Yn ystod Wythnos y Glas, mae digwyddiadau bob dydd sy’n rhoi digonedd o gyfle i fyfyrwyr newydd gynefino a dod i adnabod ei gilydd. Mae’r rhain yn cynnwys digwyddiadau penodol i groesawu myfyrwyr ôl-raddedig a rhyngwladol, sy’n dod i uchafbwynt gyda Dawns Haf Ffurfiol CBCDC, un o uchafbwyntiau’r calendr cymdeithasol.