Gwybodaeth ar Gyfer Myfyrwyr Anabl

Mae gan fwy nag un o bob deg o fyfyrwyr CBCDC anghenion penodol, felly mae gan y coleg lawer o wybodaeth am y modd y gall hyn effeithio ar wahanol agweddau ar y cyrsiau. Bydd arweinwyr cyrsiau, cynrychiolwyr gwasanaethau myfyrwyr a swyddogion anabledd yn cwrdd ag unigolion cyn i’w cwrs gychwyn i weld pa fath o gefnogaeth a fyddai’n fwyaf addas ar eu cyfer, ac a oes unrhyw beth y gellid ei drefnu i sicrhau fod profiad y myfyriwr mor bositif ag sy’n bosibl.

Bydd pob myfyriwr ag anghenion penodol yn cael sesiynau cefnogi un-i-un wythnosol trwy’r holl gwrs. Os hoffech siarad â rhywun ynglŷn â chefnogaeth anghenion penodol cyn ymgeisio, cysylltwch yn uniongyrchol â thîm mynediad y coleg.

Tîm Mynediad
Ffôn: 029 2039 1361
Ebost: mynediadau@cbcdc.ac.uk