Llety

  • Gall myfyrwyr ddewis byw mewn neuaddau preswyl trwy gydol eu cwrs.
  • Mae’r neuaddau yn Severn Point – safle diogel o dan reolaeth lawn, o fewn deng munud ar droed o’r coleg.
  • Mae pob llofft/stydi breifat, a’i chyfleusterau ei hun, mewn fflatiau chwe-llofft gyda stafell fyw gyffredin a chegin â’r holl gyfarpar.
  • Codir rhent o £92.50 yr wythnos (2010/11), yn cynnwys trydan, dŵr, yswiriant eiddo personol, trwydded deledu gymunedol, teledu cymunedol, pecyn digidol Sky a mynediad band-llydan i’r rhyngrwyd.
  • Mae’r cytundebau am 42 o wythnosau, o fis Medi tan fis Gorffennaf – does dim rhaid symud eiddo allan adeg y Nadolig a’r Pasg.
  • Mae cytundebau 52-wythnos ar gael i fyfyrwyr sydd am fyw yng Nghaerdydd ar hyd y flwyddyn gron.
  • Mae gan y neuaddau gyfleusterau golchi dillad a storio beiciau, a gwasanaeth concierge 24-awr.
  • Am stafell mewn tŷ a rennir, mae’r rhent yn rhyw £240 y mis ynghyd â biliau.
  • Mae digon o dai myfyrwyr o ansawdd da ar gael i’w rhentu o fewn cyrraedd hawdd i’r coleg ar droed.
  • Gall y coleg ddarparu rhestrau o eiddo sydd ar gael i’w rentu a landlordiaid lleol cymeradwy.