Lles Myfyrwyr

Rydym yn canolbwyntio ar les myfyrwyr ac yn rhoi pwyslais mawr
ar ddarparu gwasanaeth cefnogi ardderchog.
Mae Undeb y Myfyrwyr wedi adeiladu perthynas waith glos iawn
gyda thîm rheolaeth y coleg, sy’n sicrhau y gall myfyrwyr godi
problemau a chael gwrandawiad gan y rhai sy’n gyfrifol am redeg y
coleg.
Mae gan ein Pennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr ymroddedig brofiad
personol o fywyd fel myfyriwr yn y coleg, ac ef yw’r cysylltbwynt
cyntaf ar gyfer myfyrwyr gyda phob math o broblemau neu bryderon.
Mae’r Pennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr yn cydweithio’n glos gydag
Undeb y Myfyrwyr i sicrhau fod amrywiaeth o adnoddau gwybodaeth a
chyngor ar gael iddynt, yn cynnwys gwasanaeth cynghori
proffesiynol, cwbl gyfrinachol, sydd ar gael yn rhad ac am
ddim.