Byw yng Nghaerdydd

Saif Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng nghanol Caerdydd, prifddinas Cymru. Yn ystod y tymor coleg, mae Caerdydd yn gartref i fwy na 70,000 o fyfyrwyr, a gyda’i chostau byw fforddiadwy, mae’n cynnig ansawdd bywyd gwych. Mae’r coleg wedi ei leoli yng ngerddi Castell Caerdydd, ar gyrion parc hanesyddol Bute. Nid nepell o’r ddinas, ceir traethau baner-las trawiadol, clogwyni garw yr arfordir, mynyddoedd dramatig a chymoedd gwyrdd, iraidd – a phopeth o fewn cyrraedd hawdd.