Sut i Ddod o Hyd i Ni
Trenau/Bysys
Mae Gorsaf Reilffordd Ganolog Caerdydd ryw 10-15 munud ar droed
o’r coleg. Mae gwasanaethau tren mynych o Orsaf Reilffordd Ganolog
Caerdydd i holl brif ddinasoedd Prydain.
Mae gwasanaeth bob hanner awr yn cysylltu Caerdydd â gorsaf
Paddington Llundain, taith o lai na dwy awr.
Mae bysys yn gadael o’r brif orsaf fysys o flaen yr orsaf
reilffordd ac yn aros y tu allan i’r Coleg ar Heol y Gogledd.
Ymwelwch â gwefan Bws Caerdydd neu ffoniwch 0870 608 2608 am
fanylion pellach. Bydd tacsi o’r orsaf reilffordd ganolog/gorsaf
fysys yn costio rhyw £5.
Mewn Car
Mae’n hawdd cyrraedd Caerdydd ar hyd yr M4 o bob rhan o’r
DU.
Teithio i’r gorllewin ar yr M4:
- Gadewch y draffordd ar Gyffordd 29, dilynwch yr A48.
- Dilynwch yr arwyddion i’r A470/Canol y Ddinas.
- Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar yr A470 ar y llaw
dde, gyferbyn ag adeiladau neo-glasurol y Ganolfan Ddinesig ac
ychydig cyn Castell Caerdydd.
Teithio i’r dwyrain ar yr M4:
- Gadewch y draffordd ar Gyffordd 32, dilynwch yr A470 tuag at
Ganol y Ddinas.
- Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar yr A470 ar y llaw
dde, gyferbyn ag adeiladau neo-glasurol y Ganolfan Ddinesig ac
ychydig cyn Castell Caerdydd.
Parcio
Does dim llefydd parcio ar gael yn y coleg. Fodd bynnag, mae
meysydd parcio talu ac arddangos drws nesaf i’r coleg ac ar hyd a
lled y Ganolfan Ddinesig, gyferbyn â phrif fynedfa’r coleg ar ochr
arall Ffordd y Gogledd. Mae yna nifer o feysydd parcio aml-lawr yng
nghanol y ddinas hefyd, ryw 5-10 munud ar droed o’r coleg.