Amdanom Ni

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yw’r unig sefydliad
yn y DU sy’n darparu hyfforddiant conservatoire arbenigol mewn
cerddoriaeth, actio, cynllunio theatr a rheolaeth yn y
celfyddydau.
Mae’r coleg yn gweithredu yn rheng flaenaf ei gymheiriaid
rhyngwladol gan ddarparu’r hyfforddiant artistig mwyaf rhagorol i
fyfyrwyr eithriadol o’r DU a gwledydd eraill, a bydd llawer o’r
rheini’n mynd ymlaen i weithio ar y lefelau uchaf yn
rhyngwladol.