Addysg Cyfrwng Cymraeg

Nid yw’r coleg yn darparu cyrsiau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg ar wahân ond mae i bob cwrs academaidd fodiwlau neu gydrannau a all gael eu hastudio naill ai yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. Anogir myfyrwyr I weithio yn y ddwy iaith fel rhan o’u rhaglen hyfforddi gyffredinol. O gofio natur ansicr y diwydiant, atgoffir myfyrwyr yn gyson bod gallu cynnal gyrfa lwyddiannus yn effeithiol yn y ddwy iaith yn amlwg o fantais iddynt. Mae’r coleg yn diffinio addysgu dwyieithog o dan un neu fwy o’r categorïau canlynol:

  • cyflwyno’r cwrs yn Saesneg gyda’r asesu ysgrifenedig ar gael yn Gymraeg neu i’r gwrthwyneb
  • cyflwyno’r cwrs yn Saesneg gyda’r asesu ymarferol ar gael yn Gymraeg neu i’r gwrthwyneb
  • cyflwyno’r cwrs yn Saesneg gyda’r gwaith llafar ar gael yn Gymraeg neu gan ddefnyddio cyfieithu ar y pryd, neu i’r gwrthwyneb
  • addysgu cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn digwydd ar yr un pryd, gyda sesiynau wedi’u hamserlennu ar wahân mewn gwahanol ystafelloedd
  • rhai elfennau o’r cwrs ar gael yn Gymraeg
  • profiad gwaith mewn sefyllfa lle mae’r iaith yn wahanol i iaith cyflwyno’r cwrs

Caiff pob myfyriwr sy’n dymuno astudio’n ddwyieithog wybod ar ddechrau pob modiwl/cwrs am gategori/dull addysgu dwyieithog y modiwl/cwrs hwnnw.